Enghraifft o'r canlynol | brenhiniaeth gyfansoddiadol, hereditary position, teitl bonheddig |
---|---|
Deiliad presennol | Philippe, brenin Gwlad Belg |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Gwefan | https://www.monarchie.be |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y frenhiniaeth sydd yn teyrnasu dros Deyrnas Gwlad Belg yw brenhiniaeth Gwlad Belg. Brenhiniaeth boblogaidd ydyw, hynny yw mae teitl y teyrn yn cyfeirio at y bobl yn hytrach nag at y diriogaeth: Brenin neu Frenhines y Belgiaid (Iseldireg: Koning(in) der Belgen, Ffrangeg: Roi / Reine des Belges, Almaeneg: König(in) der Belgier). Hyd yn hyn, dim ond brenhinoedd sydd wedi teyrnasu dros y wlad. Brenhiniaeth gyfansoddiadol ydy llywodraeth Gwlad Belg, ac yn ôl y cyfansoddiad mae'n rhaid i'r teyrn dyngu llw i lywodraethu gyda pharch at gyfraith y wlad ac i ddiogelu sofraniaeth a chyfanrwydd tiriogaethol ei deyrnas rhag bygythiadau allanol.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search